Edrychwch, dw i’n gwneud rhywbeth newydd!
Mae ar fin digwydd! Ydych chi ddim yn ei weld?
Dw i’n mynd i agor ffordd drwy’r anialwch, a rhoi afonydd yn yr tir diffaith
Eseia 43:19 BNET

Amdanom ni

Rydym yn grŵp o Gristnogion ymroddedig o eglwysi ledled Cymru, wedi’n huno gan weledigaeth i weld Teyrnas Dduw yn dod yma. Ein calon yw galluogi cenhadaeth Gristnogol yng Nghymru a thu hwnt, cefnogi disgyblaeth plant, pobl ifanc a theuluoedd ac annog gweddi strategol ledled y genedl.

Trwy bartneriaeth ag eglwysi, sefydliadau Cristnogol a grwpiau eraill, rydym yn plannu ac yn cefnogi mentrau allgymorth, yn hwyluso digwyddiadau a gwersylloedd ac yn cyfarparu arweinwyr o bob oed. Rydym yn angerddol am rymuso pobl ifanc i gamu i rolau cenhadaeth ac arweinyddiaeth, gan annog dulliau dwyieithog o addoli a gweinidogaethu, ac adnoddau i ysgolion
ac eglwysi trwy brosiectau creadigol, hyfforddiant a datblygu adnoddau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Allwn ni eich helpu chi?

Dechrau rhywbeth newydd

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau gwaith newydd yn estyn allan at blant, pobl ifanc neu deuluoedd yn eich cymuned leol gyda Newyddion Da Iesu? Gallwn gynnig hyfforddiant ac arweiniad i’ch tîm wrth i chi baratoi i lansio a chefnogi wrth i chi barhau â’ch taith gyda nhw.

Cefnogaeth barhaus

Rydym yn cynnig adnoddau, cyngor parhaus, hyfforddiant, digwyddiadau a gwersylloedd i gefnogi’r rhai sydd eisoes yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae cyfarfod brecwast tymhorol ar gyfer arweinwyr yng Ngogledd Cymru. Mae ein rhaglen gwersylloedd haf yn cynnwys gwersylloedd i blant (8-11), teuluoedd cyfan a phobl ifanc (12-18). Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.

Gwneud disgyblion

Rydym yn hwyluso cynulliad ar-lein rheolaidd o arweinwyr ledled Cymru sy’n ceisio gwneud disgyblion o bobl ifanc. Mae 2 set o gynulliadau (prynhawn neu gyda’r nos) ar-lein ac mae ein hamseroedd gyda’n gilydd yn cynnwys gweddi, anogaeth gydfuddiannol, rhannu adnoddau ac ati.

Cenhadaeth wledig​

Rydym yn hapus i gynnig cymorth a chyngor ynghylch cenhadaeth mewn unrhyw gyd-destun yng Nghymru. Wedi dweud hynny, rydym yn canolbwyntio’n benodol ar genhadaeth wledig ac ar hyn o bryd rydym yn hwyluso grŵp sy’n edrych ar ddyfodol yr Efengyl yng nghefn gwlad Cymru.

Gweddi strategol

Ers peth amser, rydym wedi bod yn rhan o Wyneb yn wyneb sef cyfarfod tymhorol sy’n denu Cristnogion o bob cwr o Ogledd Cymru i addoli Duw gyda’i gilydd ac i weddïo dros ein rhanbarth. Rydym hefyd wedi’n cysylltu â mentrau gweddi eraill ledled Cymru ac yn awyddus i weld datblygiad cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol mwy strategol fyth.

Scroll to Top