Adnoddau

Storïau beiblaidd un dudalen

Storïau lliwio Beiblaidd un dudalen y gallwch eu lawr lwytho, eu hargraffu a’u rhannu. Daw’r rhain o wefan yn Seland Newydd sydd wedi rhoi caniatâd i ni’n garedig i’w cyfieithu i’r Gymraeg a’u postio yma. Mae pob PDF wedi’i gynllunio i fod yn syml, yn glir, ac yn barod i’w ddefnyddio ar gyfer teuluoedd, clybiau plant, ysgolion ac ysgolion Sul

Clwb plant trwy’r post

Pecynnau y gellir eu lawr lwytho a grëwyd yn wythnosol yn ystod 15 mis o gyfnod clo Covid. Mae pob lawr lwythiad yn cynnwys stori Feiblaidd, cwestiynau trafod, posau a chwiliadau geiriau, heriau, crefft, cân, dolenni fideo, gemau a mwy. Sylfaen dda ar gyfer cynllunio sesiynau clwb plant.

Caneuon i blant

Llu o ganeuon plant profedig sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o leoliadau mewn ysgolion, clybiau, ysgolion Sul a gwasanaethau i bob oed. Mae’r lawrlwythiadau’n cynnwys cerddoriaeth, sleidiau PowerPoint a dolenni i fideo Youtube.

Caneuon addoli i oedolion

Amrywiaeth o ganeuon gwreiddiol i’w defnyddio mewn lleoliadau addoli gan gynnwys taflenni alawon, cerddoriaeth piano, sleidiau PowerPoint a dolenni i fideos Youtube.

Gemau a gweithgareddau ar gyfer clybiau

Syniadau ar gyfer gweddi greadigol gyda phlant a phobl ifanc

Scroll to Top